Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC (UWRET) yw’r ymddiriedolaeth elusennol annibynnol sy’n gweithredu fel Ymddiriedolwr yn achos rhai gwaddolion cyfyngedig a roddwyd o’r blaen i Brifysgol Cymru at ddibenion neu fuddiolwyr penodol. Sefydlwyd UWRET yn 2015 fel rhan o Adduned Cymru Prifysgol Cymru.
Sefydlwyd Y Werin Cronfa Dreftadaeth Legacy Fund gan UWRET yn 2016 fel yr enw ar gyfer y cynllun y bydd Ymddiriedolwr UWRET yn ei ddefnyddio i wneud dosraniadau a dyfarnu ysgoloriaethau, grantiau, gwobrau a dyfarniadau o’r gwaddolion cyfyngedig a roddwyd yn wreiddiol i Brifysgol Cymru fel ymddiriedolwr.
Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr elusennol UWRET yw:
Richard (Dick) Roberts – Cadeirydd
Fel Rhag-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, mae Dick yn ymwneud â llywodraethu yn y sector addysg uwch ers dros 20 mlynedd. Mae ei gyfraniad at ei broffesiwn, optometreg, wedi ei gydnabod drwy nifer o anrhydeddau gan gynnwys OBE (yn 1998), Cymrawd Oes Coleg yr Optometryddion (yn 2004) a CBE (yn 2011). Gwasanaethodd fel Prif Swyddog Optometrig i Lywodraeth Cymru (2000-2012).
Syr Jon Shortridge
Gynt yn Gadeirydd Cyngor ac yn Ganghellor Prifysgol Glyndŵr (Mawrth 2012-Rhagfyr 2015), cyn ymddeol bu Syr Jon am 10 mlynedd yn brif was sifil Cymru fel Ysgrifennydd Parhaol Cynulliad Cymru. Cyn hyn, chwaraeodd rhan fawr yn ad-drefnu llywodraeth Cymru yn y 1990au cyn cael ei benodi’n Gyfarwyddwr Materion Economaidd, gyda chyfrifoldeb dros sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Fe’i hurddwyd yn farchog yn 2002.
Dr Stuart Robb
Oddi ar 2018, mae Stuart wedi arwain gyda gwaith sefydlu Swyddfa Partneriaethau Cydweithredol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cyn hyn, arweiniodd Stuart gyda rheoli partneriaethau trawswladol, sicrhau ansawdd, polisi a rheoliadau sefydliadol a gwelliant academaidd ym Mhrifysgol Cymru. Ym maes llywodraethu a gweinyddu addysg uwch, addysgu a gofal bugeiliol y mae ei gefndir . Mae ganddo ddoethuriaeth mewn cerddoleg. Ymunodd Stuart â Bwrdd Cyfarwyddwyr Y Werin yn 2021.
Margaret Evans
Gynt yn was sifil, bu Margaret yn Gyfarwyddwr dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi dal swyddi uwch o’r blaen yn y Swyddfa Gymreig, yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol a’r Awdurdod Afonydd Cenedlaethol. Mae ei chefndir mewn adnoddau dynol, materion corfforaethol a llywodraethu. Mae rolau blaenorol Margaret yn
cynnwys: Ymddiriedolwr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Is- Gadeirydd Coleg Bedyddwyr De Cymru; Cyfarwyddwr Gwirfoddolwyr Ymddiriedolaeth y Tywysog (De-Orllewin Cymru) ynghyd ag aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Amgueddfa Cymru – Sain Ffagan.