Dyfernir y Wobr o incwm o gymynrodd o $10,000 i Brifysgol Cymru gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894-1976), Athro Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Ryngwladol yn 1963.
Cymhwyster
- Dyfernir am waith a gyflawnwyd yn ymdrin â Rhyddiaith Gymraeg cyn 1700 neu i alluogi ymchwil neu astudiaeth yn y maes hwnnw
- Bydd tri Beirniad yn cael eu penodi i wneud argymhellion ar gyfer y wobr
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gall y Wobr fod ar ddwy ffurf, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael:
a) Gwobr o £500 neu
b) Grant o hyd at £1,500 i gynorthwyo ymchwil.
- Os yw’r beirniaid yn adrodd na ddylid dyfarnu’r Wobr, caiff y Wobr ei dal yn ôl ac ychwanegir incwm y flwyddyn at y gronfa cyfalaf.
math o ddyfarniad
Gwobr
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Astudiaethau Cymraeg
Llenyddiaeth Cymru