Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Gyffredinol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd.
Cymhwyster
- Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
- Brodorion o dde Cymru (gan gynnwys Sir Fynwy)
- Paratoi at raddau MB BCh yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ystod y tair blynedd yn union ar ôl cwblhau dwy flynedd gyntaf y rhaglen bum mlynedd
- Dyfernir ar ganlyniadau arholiadau’r Brifysgol a gynhelir ym mlwyddyn 1 a 2 yn y meysydd pwnc sy’n ymwneud ag astudiaethau anatomegol a ffisiolegol
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Yr ysgoloriaeth i’w dal o flwyddyn i flwyddyn yn amodol ar dderbyn adroddiad boddhaol gan y sefydliad, ac yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
Dylid cyfeirio ymholiadau at Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
math o ddyfarniad
Meddygol
rydych chi o
De Cymru (yn cynnwys Sir Fynwy)
lle astudio
Prifysgol Caerdydd
pwnc
Meddygol