Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Feddygol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd.
Dyfernir yr ysgoloriaeth ar ganlyniadau Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad a gynhelir gan neu ar ran Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn eu tro bob tair blynedd.
Eleni bydd yr ysgoloriaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr Prifysgol Caerdydd
Cymhwyster
- Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
- Bydd ymgeiswyr am yr ysgoloriaeth yn gymwys yn ôl y blaenoriaethau canlynol:
a) Y rheini a anwyd yng Nghwmaman (yn Sir Gaerfyrddin) neu Frynaman neu Wauncaegurwen neu Gwm-gors;
b) Y rheini yr oedd eu rhieni yn byw o fewn y ffiniau a ddiffinnir yn (i) ar adeg geni’r ymgeisydd;
- Y rheini a anwyd yn Sir Gaerfyrddin
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i fatriciwleiddio yn y Sefydliad, ac ar adeg y dyfarnu, rhaid iddynt beidio â bod wedi dechrau ar gynllun astudio ar gyfer gradd yno.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Yr ysgoloriaeth i’w dal am dair blynedd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac adroddiad boddhaol gan y sefydliad perthnasol
Dylid cyfeirio ymholiadau at Brifysgol Caerdydd
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Cwmaman
Brynamman
Gwaun-cae-gurwen
Cwmgorse
Sir Gaerfyrddin
lle astudio
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
pwnc
Amhenodol